'Does unrhyw bleser yn y byd Trafferthus a all lanw 'mryd, Dim ond cael edrych ar Dy wedd: Fy nymuniadau oll yn un Derfynant ynot Ti Dy Hun, Fy holl ddigrifwch a fy hedd. Mi dòra'r c'lymau oll i gyd Sydd rhyngwyf a gwrthrychau'r byd, A phob cariadau gwâg y llawr; Gadawaf enwau brawd a ffrynd, A châr a phriod anwyl, fyn'd Yn ddim er mwyn Dy enw mawr. O! rhwyga'r cwmwl dudew sy Yn cuddio gwedd Dy wyneb cu, Yr hwn yn llanw'r nefoedd sydd; Pelydrau pur Dy ddwyfol wedd Oleuant gonglau t'w'lla'r bedd, Gan droi y nôs yn berffaith ddydd. Pan 'drychwy' i'r dwyrain, neu i'r de, 'D oes neb yn anwyl fel Efe; Mae'n llanw f'ysbryd oll o'r bron; Dioddefaf golled o bob rhyw Yn mhresenoldeb pur fy Nuw, A holl gystuddiau'r ddaear hon.William Williams 1717-91
Tonau [888D]: gwelir: A raid i gystudd garw'r groes Rhwyga'r tew gymylau duon |
There is no pleasure in the troublesome World that can flood my mind, Nothing but getting to look upon thy countenance: All my desires as one End in thee thyself, All my delight and my peace. I shall cut all the knots altogether That are between me and the objects of the world, And all empty loves of the earth below; I shall let the names of brother and friend, And lover and dear spouse, go To nothing for the sake of thy great name. O rend the thick black cloud that is Hiding the countenance of thy dear face, That which is flooding the heavens; The pure rays of thy divine countenance Lighten the darkest corners of the grave, By turning the night into perfect day. When I look to the east, or to the south, There is no-one dear like he; He floods my all my spirit completely; I shall suffer loss of every kind In the pure presence of my God, And all the afflictions of this earth.2023 Richard B Gillion |
|